Dyma farchnad a gynhelir ar foreau Sul ar lan yr afon cyferbyn â Stadiwm y Mileniwm! Ystod eang o stondinau sy'n newid bob tro. Mae llawer ohonynt yn gwerthu cig, ond fel arfer ceir digon o stondinau sy'n arbenigo mewn bwydydd llysieuol yn unig! Digon o le i fwyta ar y safle; lle hyfryd ar ddiwrnod braf!
Siop fwydydd llysieuol a feganaidd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd gan gynnwys bwydydd a werthir yn bennaf ym marchnadoedd ffermwyr (gan gynnwys y Rhath a Glan yr Afon) Hefyd yn dysgu pobl sut i goginio bwydydd llysieuol a rhedeg stondin eu hunain!
Arlwyo allanol ar gael